Digwyddiadau

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau â'r ardd, digwyddiadau gwerthu planhigion a diwrnodau agored.

Ventures to the Arctic for Plants (& Animals) Sgwrs gan Dr Peter Evans
Jan
13

Ventures to the Arctic for Plants (& Animals) Sgwrs gan Dr Peter Evans

Digwyddiad rhoi.

Mae Dr Peter Evans yn athro er anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd yn gyfarwyddwr a sylfaenydd y Sea Watch Foundation, sefydliad “gwyddoniaeth dinasyddion” arloesol sy’n addysgu, hysbysu a chynghori gyda’r nod o ddiogelu mamaliaid y môr. Cafodd Peter ei restru gan BBC Wildlife Magazine fel un o’r 50 arwr cadwraeth mwyaf dylanwadol. 

Mae Peter yn ymwelydd cyson â’r rhanbarthau pegynol, ac mae wedi datblygu diddordeb arbennig mewn planhigion alpaidd arctig. Mae wedi teithio i leoedd fel Svalbard a gogledd Norwy i weld y planhigion yn y gwyllt. Mae Peter yn ffotograffydd brwd, ac mae ganddo luniau gwych o'r planhigion y mae wedi eu gweld, a'r anifeiliaid hefyd, wrth gwrs.  

Ewch i'n gwefan: www.friendsoftreborthbotanicgarden.org/donate i wneud cyfraniad (rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi £5). Byddwn hefyd yn derbyn rhoddion, gyda cherdyn yn ddelfrydol, ar y diwrnod.

View Event →

Gweithdy Gwneud Addurniadau Blodau Nadolig
Dec
8

Gweithdy Gwneud Addurniadau Blodau Nadolig

Gweithdy addurniadau blodau Nadolig gydag Anna o’r Branch & Brush Studios.

Dydd Sul 8 Rhagfyr 10am-12pm yng Ngardd Fotaneg Treborth.

Creu detholiad o addurniadau gwydr hardd, gyda blodau wedi'u gwasgu o gasgliad personol Anna a'u llenwi â dewis o flodau sychion a gafodd eu tyfu'n lleol ac arogleuon Nadoligaidd.

Ewch â'ch addurniadau blodau adref i'w hongian ar y goeden neu’u rhoi’n anrhegion Nadolig hyfryd i ffrindiau a theulu. 

Disgwyliwch wneud dau neu dri o addurniadau yr un, mewn bore llawn o hwyl yr ŵyl! Diodydd poeth a mins peis yn gynwysedig. 

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd - felly mae’n rhaid cadw lle.  Cost £30 ynghyd â ffi archebu Eventbrite.

Archebwch trwy Eventbrite: Christmas Flower Bauble Workshop

View Event →
Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)
Dec
7

Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)


Ymunwch â’r artist preswyl Doreen Weaver a fydd yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses o ddarlunio a phaentio siapiau cyfareddol yr holl blanhigion: blodau, dail, ffrwythau neu lysiau. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol.

Cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar y 1af a'r 3ydd dydd Sadwrn o bob mis.

Addas i bob lefel, croeso i ddechreuwyr (dim rhai o dan 16 oed).

Bydd te, coffi a bisgedi.   Gellir darparu deunyddiau i ddechreuwyr.

RHAID ARCHEBU e-bost: doreensbotanicals@gmail.com neu ffoniwch 07508 728418 i gadw lle.

View Event →
Gweithdai Torch Nadolig
Dec
7

Gweithdai Torch Nadolig

Beth am fynd i ysbryd yr ŵyl a gwneud torch Nadolig gyda deunyddiau lleol, naturiol. Bydd teisennau Nadoligaidd a diodydd poeth ar gael.

 £15 ynghyd â ffi archebu i aelodau (defnyddiwch y ddolen Cysylltwch â Ni uchod i ofyn am god disgownt); £20 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

Gyda thâl archebu’n ychwanegol.

Archebwch trwy via Eventbrite: Christmas Wreath Workshop

dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 10am - 12pm

dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2pm - 4pm

View Event →
Cyfarfod Blynyddol yr Aelodau a Sesiwn Holi Garddwyr                   
Nov
19

Cyfarfod Blynyddol yr Aelodau a Sesiwn Holi Garddwyr                   

Digwyddiad rhad ac am ddim.

Dydd Mawrth 19 Tachwedd 7pm.

Cynhelir y cyfarfod blynyddol i aelodau yn y labordy yn Nhreborth ond bydd hefyd ar gael ar-lein i aelodau os ydynt eisiau ymuno o adref. Bydd rhan gyntaf y cyfarfod yn cynnwys adroddiadau gan yr ymddiriedolwyr a diweddariadau gan dîm yr ardd. Ar ôl egwyl am baned, bydd ein harbenigwyr yn Nhreborth yn barod i ateb eich cwestiynau am arddio!

Mae nifer y bobl yn y labordy wedi ei gyfyngu i 30 ac felly os hoffech ddod, anfonwch e-bost i Simon ynfriendsoftreborthbotanicgarden@outlook.com  i archebu lle, neu rhowch wybod i ni os ydych eisiau ymuno ar-lein a byddwn yn anfon y ddolen atoch. Os oes gennych gwestiwn am arddio, yna nodwch y cwestiwn yn eich e-bost.

View Event →
Cyfarfod y Gymdeithas Ardd Alpaidd a sgwrs yng Ngardd Fotaneg Treborth
Nov
9

Cyfarfod y Gymdeithas Ardd Alpaidd a sgwrs yng Ngardd Fotaneg Treborth

£2 wrth y drws (gan gynnwys tocyn raffl).

Mae'r Gymdeithas yn croesawu aelodau FTBG i'w cyfarfodydd yn Nhreborth.

Teitl sgwrs y mis hwn gan David Charlton yw ‘Flowers of the Pyrenees’.

Mae David wedi arwain gwyliau i Colletts yn arddangos blodau alpaidd ac mae’n gydawdur cyfeirlyfrau darluniadol ar flodau mynyddig mewn sawl rhanbarth gan gynnwys y Pyreneau.

View Event →
Sgwrs gan Sean Adcock am waliau cerrig sychion traddodiadol
Nov
8

Sgwrs gan Sean Adcock am waliau cerrig sychion traddodiadol

Digwyddiad rhoi.

Teitl y cyflwyniad yw: “Spot the Difference: Patterns, Peculiarities and Possibilities”

Mae Sean yn brif grefftwr codi waliau cerrig sychion ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar y pwnc ac wedi darlithio ledled y byd. Mae gennym sawl enghraifft o’i waith rhagorol yn Nhreborth – yn y pwll bywyd gwyllt, yr ardd feddyginiaeth Gymreig newydd a Gardd Maint Cymru.

Dywed Sean fod y cyflwyniad yn “drosolwg ar yr amrywiaeth o waith cerrig sychion sydd i’w weld ledled y Deyrnas Unedig, gan gyfeirio’n benodol at enghreifftiau yng ngogledd Cymru. O osod cerrig ar hap i waliau haenog, tyllog a sengl. Patrwm cefn pennog neu fertigol, cloddiau, fflagiau a chrawiau. Corlannau, pontydd ac ysguborau. Waliau llanw a chwareli llechi. Popeth o dan haul, os yw wedi ei adeiladu heb forter, byddaf yn ei drafod yn y sgwrs hon."

Ewch i'n gwefan: www.friendsoftreborthbotanicgarden.org/donate i wneud cyfraniad (rydym yn awgrymu eich bod yn rhoi £5). Byddwn hefyd yn derbyn rhoddion, gyda cherdyn yn ddelfrydol, ar y diwrnod.

View Event →
Taith Gerdded Mwsogl gyda Sue Grahame yng Ngardd Fotaneg Treborth        (£10/£15 ynghyd â ffi archebu Eventbrite)
Oct
12

Taith Gerdded Mwsogl gyda Sue Grahame yng Ngardd Fotaneg Treborth (£10/£15 ynghyd â ffi archebu Eventbrite)

Mae llwybr mwsogl wedi ei greu yn yr ardd (mwsoglau a llysiau'r afu Treborth) a bydd hwn yn gyfle i gael eich tywys o amgylch y llwybr gan Sue, aelod o Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth a bryolegydd. Ar ôl y daith, bydd cyfle i chi gael golwg ar bryoffytau o dan ficrosgop yn y labordy. Bydd diod a bisgedi ar gael. 

Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly mae’n hanfodol archebu: Cliciwch yma: Taith Gerdded Mwsogl  i archebu.

Rhowch y cod disgownt Moss i gael gostyngiad fel aelod.

View Event →
Half Ffwng
Sept
28

Half Ffwng

Digwyddiad rhoi.

Mae lliwiau a siapiau’r ffyngau a’r straeon amdanynt yn hudolus. Dewch i chwilio amdanyn nhw yn Nhreborth!

Mae’n bleser gennym groesawu’r arbenigwr, Charles Aron, yn ôl i Dreborth i’r helfa ffwng flynyddol. Mae’n un o uchafbwyntiau’r calendr. Mae dros 400 o rywogaethau yn Nhreborth, ac mae’n gyfle gwych i’r teulu oll ddysgu mwy am y byd cudd rhyfeddol hwn.

Lluniaeth ar werth.

Dim angen cadw lle. Dewch yn brydlon a chwrdd y tu allan i'r prif adeilad.

Croesewir rhoddion (£5 yw’r awgrym i oedolion - cliciwch ar y Rhoddion uchod). Byddwn hefyd yn derbyn rhoddion, gyda cherdyn yn ddelfrydol, ar y diwrnod.

View Event →
Botanical Watercolour Classes £15 per session (£10 for students)
Sept
21

Botanical Watercolour Classes £15 per session (£10 for students)


Ymunwch â’r artist preswyl Doreen Weaver a fydd yn eich arwain a’ch cefnogi drwy’r broses o ddarlunio a phaentio siapiau cyfareddol yr holl blanhigion: blodau, dail, ffrwythau neu lysiau. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun mewn amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol.

Cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar y 1af a'r 3ydd dydd Sadwrn o bob mis.

Addas i bob lefel, croeso i ddechreuwyr (dim rhai o dan 16 oed).

Bydd te, coffi a bisgedi.   Gellir darparu deunyddiau i ddechreuwyr.

RHAID ARCHEBU e-bost: doreensbotanicals@gmail.com neu ffoniwch 07508 728418 i gadw lle.

View Event →
Cyfarfod Mars Cymdeithas Gerddi Alpaidd Gogledd Cymru yn Chwarel
Aug
24

Cyfarfod Mars Cymdeithas Gerddi Alpaidd Gogledd Cymru yn Chwarel

Bydd Dr Richard Birch (Botanegydd a Daearegwr) yn arwain cyfarfod maes Cymdeithas Gerddi Alpaidd Gogledd Cymru yn Chwarel Tan Dinas ar Ynys Môn.

Mae croeso cynnes i Gyfeillion Gardd Treborth.

Bydd croeso i roddion mewn arian parod ar y diwrnod. Awgrymwn isafswm o £2.

Chwarel galchfaen ar ochr ddwyreiniol Traeth Coch, Ynys Môn yw Tan Dinas, a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei stratigraffeg calchfaen Carbonifferaidd

Ymunwch â Dr Richard Birch ar daith gerdded ar lwybr yr arfordir i’r hen chwarel hon i weld golygfeydd arfordirol arbennig, daeareg hynod ddiddorol a planhigion sy’n brin iawn mewn mannau eraill ar Ynys Môn.

Mae’r llefydd parcio’n gyfyngedig ac mae'r daith gerdded yn eithaf llafurus. Mae'r map yn dangos lle parcio i 5 car ger man cychwyn y daith.

Os nad oes lleoedd parcio ar gael, parciwch wrth yr ysgol yn Llanddona (Yr Hen Ysgol). Byddwn yn rhoi lifftiau at fan dechrau’r daith o 9.45 am.

View Event →