Ymhlith rhyfeddodau mis Awst bydd Troellig yr Hydref (Spiranthes spiralis), Crwynllys yr Hydref (Gentianella amarella).
Ar y clogwyni, Bresych Gwyllt (Brassica oleracea) ac Ysgedd Arfor (Crambe maritima) ar y traeth.
Mae'r ddaeareg yn hynod ddiddorol hefyd, ac mae calchfaen Carbonifferaidd ar ben sialau Ordofigaidd, yn ffawtio yn erbyn sgistiau Cyn-Gambriaidd i'r gorllewin. Cewch ddisgwyl gweld ffosiliau diddorol hefyd.
Dim ond lle i 5 car sydd i barcio felly rhannwch lifft lle bo modd fel na fydd gormod o geir. Mae lleoedd parcio ychwanegol ar gael yn Llanddona, 1.25 km ar hyd y ffordd wrth yr ysgol (Yr Hen Ysgol).
Byddwn yn ymgynnull ar ddechrau'r daith (a welwch ar y map mewn coch) am 10:00am. Os nad oes lle i barcio, byddwn yn cludo pobl yn ôl ac ymlaen o Llanddona.
Mae llwybr hwylus i lawr i'r chwarel ar hyd llwybr graeanog serth ac mae dringfa serth yn ôl i fyny. Mae peth o'r tir yn anwastad ac mae perygl o faglu a chwympo.
Mae’r llwybr yn eithaf llafurus ac mae angen ffitrwydd rhesymol ac mae tua 2 filltir (3.25 km) o hyd.
Dewch ag esgidiau cryfion a lluniaeth gan gynnwys dŵr.
Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael - dim mwy na 16 person. Archebwch drwy Eventbrite: Cyfarfod AGS yn Chwarel Tan Dinas