Newyddlenni

Mae tîm bach o wirfoddolwyr wedi bod yn cynhyrchu newyddlenni deirgwaith y flwyddyn ers 1997. Mae pob newyddlen yn cynnwys adroddiad gan y Curadur, ystod o erthyglau sydd ag apêl eang i arddwyr, garddwriaethwyr, botanegwyr, a'r sawl sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol a hanes lleol.

Mae rhestr o'n newyddlenni i’w gweld isod, gyda chrynodeb o'r erthyglau ym mhob un a dolen i'r newyddlen honno.

Nid yw'r rhifyn diweddaraf wedi'i restru, gan mai dim ond i aelodau'r Cyfeillion y bydd ar gael am y pedwar mis cyntaf ar ôl ei gyhoeddi. Cyhoeddir newyddlenni ar ddiwedd y misoedd canlynol: Ionawr, Mai a Medi.

Ydych chi eisoes yn aelod? Gweld y rhifyn diweddaraf.

Os nad ydych eisiau aros pedwar mis yna ymunwch â ni.

Cyfraniadau i’r newyddlen

Hoffech chi gyfrannu erthygl i’n newyddlen? Efallai eich bod yn wynebu her arbennig yn eich gardd eich hun, neu wedi bod i un o ddigwyddiadau Cyfeillion Treborth, neu wedi ymweld â gardd fotaneg ddiddorol, neu bod gennych syniadau am bwnc garddwriaethol neu amgylcheddol cyfredol.

Ysgrifennwch amdano - byddem wrth ein boddau’n clywed gennych! ⁠Cysylltwch â ni.