Ymunwch â ni

Mae dod yn aelod o’r Cyfeillion yn cefnogi’r ardd mewn llawer o ffyrdd.

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau â'r ardd, digwyddiadau gwerthu planhigion a diwrnodau agored. Bydd eich tanysgrifiad aelodaeth yn helpu i gynnal a gwella'r ardd.

Fel aelod o’r Cyfeillion byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Newyddlen wedi ei hargraffu/ar-lein deirgwaith y flwyddyn, sy’n llawn erthyglau am yr ardd a phynciau perthnasol eraill

  • Bod yn un o’r cyntaf i gael clywed am ddigwyddiadau gwerthu planhigion

  • Gweithdai a sgyrsiau

  • Teithiau dydd a theithiau hirach i erddi diddorol (a gynhelir ar y cyd â sefydliadau tebyg)

Fel aelod o’r Cyfeillion gallwch ymuno ag eraill i wneud y canlynol:

  • Codi arian i ariannu projectau ar gyfer Gardd Fotaneg Treborth

  • Hau hadau a meithrin planhigion ar gyfer ein digwyddiadau gwerthu planhigion yn y gwanwyn

  • Gwirfoddoli i wneud gwelliannau a gwaith cynnal a chadw yn yr ardd

  • Helpu i redeg gweithdai ar gyfer y Cyfeillion a'r cyhoedd

  • Cynorthwyo gyda theithiau tywys o amgylch yr ardd

Y cyfraddau cyfredol ar gyfer aelodaeth blynyddol yw:


Math o aelodaeth Arferol Gostyngol

  • Unigolyn £15 £10

  • Unigolyn + cylchlythyr printiedig £25 £20

  • Teulu (dim may na 2 oedolyn) £20 £15

  • Teulu + cylchlythyr printiedig £30 £25

    (dim may na 2 oedolyn)

  • Myfyriwr Free

Gellir hefyd drefnu aelodaeth rhodd.

Gellir talu ffioedd aelodaeth yn flynyddol drwy archeb sefydlog, siec, arian parod neu drosglwyddiad banc.

Sut i ymuno

Llenwch ein ffurflen gais ar-lein. Bydd yr Ysgrifennydd Aelodaeth yn anfon e-bost atoch gyda manylion am sut i dalu.

Ffyrdd eraill o ymuno

Lawrlwythwch y ffurflenni isod a'u postio i'r cyfeiriad isod.

New anfonwch y ffurflenni wadi’u llenwi at treborthmembers@outlook.com

Ffurflen gais aelodaeth neu ffurflen adnewyddu aelodaeth (dwyieithog)

Ffurflen archeb sefydlog (dwyieithog)

Neu ysgrifennwch at:

Yr Ysgrifennydd Aelodaeth
Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth
Treborth
Bangor
Gwynedd
LL57 2RQ