Back to All Events

Darlith Goffa Len Beer: ‘One Thousand Shades of Green: A Year in Search of Britain's Wild Plants’ yn cael ei thraddodi gan Mike Dilger

Gan edrych ar ganol dinasoedd, copaon mynyddoedd a phob cynefin posibl rhyngddynt, roedd blwyddyn fotaneg fawr Mike nid yn unig yn gyfle i ddathlu harddwch, amrywiaeth a phrinder planhigion y genedl, ond hefyd i asesu sut mae ein fflora hynod ddiddorol yn dod ymlaen ym Mhrydain fodern.

Wrth ymgymryd â’r her, roedd Mike yn meddwl i ddechrau y byddai chwilio am blanhigion yn weithgaredd ysgafn, ond, ac yntau â dim ond planhigion ar ei feddwl, llwyddodd rhywsut i fentro’i fywyd yn ystod ei ymgais i chwilio’n daer am bopeth gwyrdd. Ysgrifennodd lyfr am ei anturiaethau, One Thousand Shades of Green.

Mae'n dod i siarad â ni am yr ymchwil, ynghyd â hanesion ei yrfa fel cyflwynydd teledu a gwneuthurwr ffilmiau bywyd gwyllt.

Pris tocyn: £8 ynghyd â ffi archebu i aelodau FTBG neu AGS (defnyddiwch Cysylltwch â Niuchod i ofyn am god disgownt);

£10 i'r rhai nad ydynt yn aelodau ynghyd â ffi archebu.

Archebwch trwy gyswllt Eventbrite: Sgwrs Mike Dilger

Previous
Previous
1 February

Dosbarthiadau Dyfrlliw Botanegol £15 y sesiwn (£10 i fyfyrwyr)

Next
Next
26 April

Arwerthiant Planhigion Dechrau’r Gwanwyn