Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Rydym yn cefnogi gardd fotaneg Prifysgol Bangor drwy godi arian, gwirfoddoli yn yr ardd, a hyrwyddo’r gwaith cadwraeth a’r gwaith addysgol gwerthfawr a wneir yno.

Mae'r Cyfeillion yn sefydliad elusennol llwyddiannus iawn gyda mwy na 400 o aelodau.

Rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau, megis darlithoedd, gweithdai, teithiau maes, ymweliadau â'r ardd, digwyddiadau gwerthu planhigion a diwrnodau agored.

Mae rhai Cyfeillion yn mwynhau gwirfoddoli yn yr ardd ar ddydd Mercher neu ddydd Gwener, mae'n well gan rai helpu mewn digwyddiadau arbennig ac mae rhai yn cefnogi trwy eu tanysgrifiad aelodaeth.

Rydym yn cyhoeddi newyddlen bob pedwar mis - adolygiad 50 tudalen sy’n cynnwys darluniau a newyddion am yr ardd, ac erthyglau a gyfrannwyd gan y cyfeillion ar ystod eang o bynciau perthnasol.

Mae Gardd Fotaneg Treborth wedi’i lleoli ar lannau eiconig y Fenai, rhwng y ddwy bont hanesyddol sy’n ei chroesi, sef Pont Menai a Phont Britannia.