£2 wrth y drws, gan gynnwys tocyn raffl.
Dydd Iau 6 Chwefror, 7.30pm (drysau’n agor 7.15)
Mae Dr Jones yn ecolegydd sy’n mynydda, ac mae wedi dringo, archwilio a gwneud gwaith botanegol mewn nifer o gadwynau o fynyddoedd ledled y byd.
Treuliodd Dr Jones nifer o flynyddoedd yn addysgu addysg awyr agored, cyn symud ymlaen i weithio ym maes cadwraeth yn yr Alban ac yng ngogledd Cymru. Treuliodd un ar ddeg mlynedd fel Ecolegydd Ucheldir Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn ymwneud â chomisiynu ymchwil a chynghori ar gadwraeth a rheolaeth ucheldiroedd Cymru, yn ogystal â chwblhau PhD yn ymchwilio i ecoleg, geneteg a dynameg poblogaeth Lili’r Wyddfa.
Mae hi'n parhau i weithio gyda gwahanol sefydliadau ar gadwraeth fflora mynydd ac ar faterion cadwraeth cyffredinol. Mae hi wedi ymddangos ar raglenni teledu fel “y ferch ryfedd sy’n hongian oddi ar raffau yn edrych ar blanhigion mynydd”!