Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr yn Nhreborth

Efallai yr hoffech helpu gyda garddio, neu gyda digwyddiadau a gweithgareddau'r Cyfeillion.

Beth bynnag a wnewch, fel gwirfoddolwr yng Ngardd Fotaneg Treborth, byddwch yn aelod o grŵp amrywiol a diddorol iawn o bobl o bob cefndir ac sydd â diddordebau a sgiliau eang iawn.

Mae gennym aelodau mor ifanc â 18 oed a chyn hyned â 90 oed. Mae'n dîm gwych i fod aelod ohono.

Manteision Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli’n rhoi cyfle i ddefnyddio ychydig o’ch amser hamdden i helpu i wneud un o'r ychydig fannau agored cyhoeddus ym Mangor yn well, yn fwy croesawgar ac yn fwy diddorol i'r gymuned leol gyfan.

Mae llawer o wirfoddolwyr hefyd wrth eu bodd yn datblygu sgiliau newydd a chael gwybodaeth newydd, yn enwedig am blanhigion, bywyd gwyllt a garddwriaeth.

Caiff gwirfoddolwyr yr ardd eu rheoli gan staff yr ardd

Mae gwirfoddoli yng Ngardd Fotaneg Treborth yn cynnig llawer o fanteision ac mae’n hwyl; gofynnwch i unrhyw un sydd eisoes yn gwirfoddoli gyda ni! Rydym bob amser yn croesawu ymholiadau gan wirfoddolwyr newydd. 

Cyn i chi allu dechrau gwirfoddoli gyda ni, gofynnwn i chi ddod i sesiwn gynefino. Rydym yn cynnal sesiynau cynefino grŵp bob 6-8 wythnos. Anfonwch e-bost at l.toth@bangor.ac.uk i gael gwybod pryd mae'r sesiwn nesaf yn cael ei chynnal. Bydd y sesiwn gynefino yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y mae gwirfoddoli yn yr ardd yn ei olygu a bydd gofyn i chi lenwi rhywfaint o waith papur. Byddwn hefyd yn gofyn am yr hyn y mae gennych ddiddordeb ynddo a pha brofiad a allai fod gennych. Yn dilyn hyn, byddwn yn trefnu dyddiad i’ch sesiwn wirfoddoli ymarferol gyntaf. 

Cynhelir sesiynau gwirfoddoli ar ddydd Gwener, 10am-1pm.

Caiff gwirfoddolwyr digwyddiadau a gweithgareddau eu rheoli gan y Cyfeillion

Mae amrywiaeth o swyddi ar gael, gan gynnwys paratoi labeli planhigion ac arwyddion ar gyfer digwyddiadau gwerthu planhigion, trefnu teithiau i erddi eraill, gwneud paneidiau yn ystod digwyddiadau gwerthu planhigion a digwyddiadau eraill, trefnu cyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau a stiwardio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwaith gwirfoddol o’r fath, cysylltwch â ni.

Diwrnodau gwirfoddolwyr

Ceir diwrnodau gwirfoddoli bob dydd Mercher a dydd Gwener o 10.00 o’r gloch. Rydym yn darparu diodydd a bisgedi, ond efallai yr hoffech ddod â phecyn bwyd os ydych yn aros am y prynhawn.