Hanes Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth

Ffurfiwyd y Cyfeillion yn 1997 ar adeg pan oedd dyfodol yr ardd yn ansicr iawn. Roedd cyfyngiadau ariannol ym Mhrifysgol Bangor yn golygu bod cyfleoedd i arbed arian yn cael eu harchwilio'n fanwl ac roedd perygl go iawn y byddai'r ardd yn cau.

Roedd y Cyfeillion newydd yn gweld eu rôl fel helpu i gefnogi’r ardd, gan gynnig cymorth ymarferol a chefnogaeth ariannol ar gyfer projectau penodol drwy godi arian, yn bennaf drwy ddigwyddiadau gwerthu planhigion.

Perthynas â Phrifysgol Bangor

Prifysgol Bangor sy'n berchen ar yr ardd ac yn ei rheoli. Mae gan y Cyfeillion berthynas waith ardderchog gyda Churadur yr Ardd, a chyda staff eraill y Brifysgol.

Llywodraethu

Mae'r Cyfeillion yn elusen (rhif elusen 1126087) ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant (rhif cwmni 6238935). Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am wneud penderfyniadau allweddol, datblygu strategaeth a chydymffurfio’n gyfreithiol ac ariannol.

Cefnogir yr ymddiriedolwyr gan nifer o weithgorau sy'n delio â materion gweithredol, megis rheoli aelodaeth, trefnu digwyddiadau gwerthu planhigion a digwyddiadau eraill, a gofalu am y wefan a'r newyddlen.

  • i) Hyrwyddo, neu gynorthwyo i hyrwyddo, cadwraeth tiroedd, gerddi a chofadeiliau Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor, Treborth, Bangor, a’r gwaith o’u datblygu a’u cynnal a’u cadw.

    ii) Cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y tiroedd a’r gerddi, yn enwedig drwy hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol ac addysgol, ar ran aelodau’r Gymdeithas, ysgolion, colegau, grwpiau oedolion ac aelodau’r cyhoedd.

    iii) Gwarchod, annog, cefnogi a gwella gwerth gwyddonol casgliadau planhigion byw y tiroedd a’r gerddi, y cynefin y maent yn ei gynnig i fywyd gwyllt cynhenid, a’u pwysigrwydd amgylcheddol i’r ardal.

Ymddiriedolwyr

  • Sarah Edgar (Cadeirydd)

  • Tony Howard (Ysgrifennydd)

  • Cath Dixon (Trysorydd)

  • Teri Shaw

Codi arian

Un o weithgareddau pwysicaf y Cyfeillion yw codi arian a chaiff y rhan fwyaf o'r arian ei godi drwy ddigwyddiadau gwerthu planhigion. Fel arfer cynhelir dau ddigwyddiad gwerthu planhigion yn y gwanwyn, a thrydydd yn yr hydref pan agorir yr ardd fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.

Codir arian hefyd trwy ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys ymweliadau â gerddi eraill, sgyrsiau a darlithoedd, a thrwy roddion hael gan aelodau ac aelodau o'r cyhoedd nad ydynt yn ymwneud â'r ardd.

Cefnogi'r ardd

Yn ogystal â rhoi miloedd o oriau o gymorth gwirfoddol bob blwyddyn, mae’r Cyfeillion hefyd yn helpu gyda phrojectau penodol, gyda’r prosiectau’n newid o flwyddyn i flwyddyn.

Mae projectau diweddar yn cynnwys rhoi labeli ar blanhigion, byrddau dehongli newydd, a sied ar gyfer storio offer a pheiriannau.

Newyddlenni

Cyhoeddwyd newyddlen reolaidd o'r cychwyn cyntaf, ac i lawer o aelodau, dyma gyfle i ddarllen am uchafbwyntiau’r ardd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Mae aelodau'n derbyn pob newyddlen drwy'r post neu'n electronig. Mae pob newyddlen yn cynnwys newyddion am yr ardd, ynghyd â llawer o erthyglau unigryw gan aelodau a chyfranwyr eraill am bynciau sy’n ymwneud â garddio, garddwriaeth a botaneg ac sy’n seiliedig ar brofiadau o bedwar ban byd.

Fforwm Cyfeillion Gerddi Botaneg (FBGF)

Rydym yn aelod o FBGF, sef rhwydwaith o erddi botaneg yn y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd y fforwm hwn i ddod â grwpiau Cyfeillion ynghyd i ddysgu o brofiadau ei gilydd, i gefnogi ei gilydd ac i gyfnewid syniadau.